Gwyl Rhif 6: Cyfweliad efo Geraint Jarman

Penwythnos anhygoel yn Gwyl Rhif 6. Dwi yn sicr heb lwyddo i ddad-flino eto – sydd yn esbonio’r diffyg geiriau ar yr erthygl yma a’r ffaith fod dim byd arall o’r Wyl wedi cael ei roi fyny eto.

Oedd Geraint Jarman yn chwarae ar lwyfan Clough nos Wener. Ar y dydd Sadwrn, braint yw cael dweud mod i wedi cael cyfle i gyfweld y dyn ei hyn. Felly yn lle bod chi’n gorfod darllen trwy’r holl gyfweliad – dyma fo fel clip. Yn y cyfweliad mae Jarman yn trafod yr Wyl, gigio yn gyson ac albym newydd!

Mi fyddai yn adolygu’r Wyl ar raglen Lisa Gwilym nos FORY – cyn i albym Yr Ods gael ei chwarae yn ei gyfanrwydd – ac yn rhifyn nesaf o gylchgrawn Barn!

1 thought on “Gwyl Rhif 6: Cyfweliad efo Geraint Jarman

Leave a comment